Cowydd marwnad Rhydderch ap Evan llwyd
1 doe klowais mi a geissiais gel
2 dair och alethyr dir vchel
3 ni fyddyliwn gwn gannoch
4 i rhoi wr fyth y ryw och
5 ni bu in gwlad rhoddiad rhydd
6 na llif kwyn na llef kynydd
7 na meingorn ar lethr mangoed
8 na chloch vwch nor och a roed
9 Pa dwrw yw hwn pedeiroch
10 pefer loys pwy a roes yr och
11 llewelyn or syddyn serch
12 a roddes hon am Rydderch
13 Vychan gerilan i lys
14 ffyddfrawd Rhydderch ddifoddyrys
15 och emyn yn i dyddyn dig
16 [149] mameth galar am emig
17 och gwr a fai yn awch garv
18 i gar o fawr alar afv
19 ar drydydd och gloch y glyn
20 llef ail a roes llywelyn
21 pen gaywyd saith guddiwyd serch
22 gun roddiad genau Rydderch
23 darfu gwn im dierfir
24 ben deheubarth wn yn wir
25 darfu r oes dirfawr furwadd
26 darfu dauaru dewradd
27 oerchwedl yw ini warchae
28 gorwedd mewn maenfedd imae
29 nattur boen yw natthwyr bedd
30 sydd drydvalch nossaith droedfedd
31 pregeth ryfedd oedd weddv
32 dan hyn o dywarchen du
33 gwybodau synhwyrau serch
34 gwmpas rhodd gampus Rhydderch
35 ai gwiwdawd ddigollwawd gall
36 ai gryfgorf gwyn digrifgall
37 ai chwedlau ai ddoniau ddawn
38 ai llwyddiant ai oleuddawn
39 ai ras geweithas ieithydd
40 ai glod och ddyfod i ddydd
41 drwst oedd oer trist ddayaru
42 trigarog o farchog a fu
43 [150] drigaredd asseinwedd serch
44 a roddo duw i Rydderch
Dauydd ap Gwilim